Croeso i “Ymweld â’r Bala”, gwefan swyddogol Cymdeithas Dwristaidd Bala a Phenllyn. Mae’r Bala a Phenllyn yn gyrchfan gwyliau perffaith i ymweld â hi gydol y flwyddyn.
Mae mannau aros yn yr ardal ar gyfer pob angen, o safleoedd gwersylla a bythynnod hunan arlwyo i leoedd gwely a brecwast, llety am bris rhesymol a gwestai. Hefyd mae digon i’w wneud i bob aelod o’r teulu, i gyplau a phobl yr awyr agored, gyda digwyddiadau, atyniadau a gweithgareddau awyr agored, a hynny ar gefndir o olygfeydd trawiadol. Mae yna hefyd ystod eang o gyfleusterau eraill ar gael, yn cynnwys siopau, caffis, tai bwyta, tafarndai a gwestai.
Bydd y wefan hon yn gymorth i chi i gynllunio eich ymweliad gyda gwybodaeth am deithio, lleoedd aros, bwyta allan, gweithgreddau, atyniadau a digwyddidau. Byddwch yn gallu trefnu eich arhosiad perffaith yn y Bala a Phenllyn, ardal llynnoedd Cymru yn Eryri.
Mae Cymdeithas Dwristaidd Bala a Phenllyn yn croesawu ‘Ffair Wledig Gogledd Cymru’ i’r Bala, ac yn gobeithio ei gweld yn y Bala drachefn.
Dyma wefan swyddogol Cymdeithas Dwristaidd Bala a Phenllyn, a thrwy ymweld â hi yr ydych yn derbyn amodau a thelerau ei defnyddio.